Datguddiad Ioan 1:16
Ac yr oedd ganddo yn ei law ddeau saith seren: ac o’i enau yr oedd cleddau llym daufiniog yn dyfod allan: a’i wynepryd fel yr haul yn disgleirio yn ei nerth.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
15A’i draed yn debyg i bres coeth, megis yn llosgi mewn ffwrn; a’i lais fel sŵn llawer o ddyfroedd.
Cross References
Judges 5:31Felly y darfyddo am dy holl elynion, O ARGLWYDD: a bydded y rhai a’i hoffant ef fel yr haul yn myned rhagddo yn ei rym. A’r wlad a gafodd lonydd ddeugain mlynedd.
Isaiah 11:4Ond efe a farn y tlodion mewn cyfiawnder, ac a argyhoedda dros rai llariaidd y ddaear mewn uniondeb: ac efe a dery y ddaear a gwialen ei enau, ac ag anadl ei wefusau y lladd efe yr anwir. º
Isaiah 49:2Gosododd hefyd fy ngenau fel deddyf llym, yng nghysgod ei law y’m cuddiodd; a gwnaeth fi yn saeth loyw, cuddiodd fi yn ei gawell saethau; º
Daniel 8:10Aeth yn fawr hefyd hyd lu y nefoedd, a bwriodd i lawr rai o’r llu, ac o’r ser, ac a’u sathrodd hwynt.
Malachi 4:2Ond Haul cyfiawnder a gyfyd i chwi, y rhai ydych yn ofni fy enw, a meddyginiaeth yn ei esgyll, a chwi a ewch allan, ac a gynyddwch megis lloi pasgedig.
Acts 26:13Ar hanner dydd, O frenin, ar y ffordd, y gwelais oleuni o’r nef, mwy na disgleirdeb yr haul, yn disgleirio o’m hamgylch, a’r rhai oedd yn ymdaith gyda mi.