Datguddiad Ioan 1:2
Yr hwn a dystiolaethodd air Duw, a thystiolaeth Iesu Grist, a’r holl bethau a welodd.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
John 3:11Yn wir, yn wir, meddaf i ti, Mai yr hyn a wyddom yr ydym yn ei lefaru, a’r hyn a welsom yr ydym yn ei dystiolaethu; a’n tystiolaeth ni nid ydych yn ei derbyn.
John 19:35A’r hwn a’i gwelodd, a dystiolaethodd; a gwir yw ei dystiolaeth; ac efe a ŵyr ei fod yn dywedyd gwir, fel y credoch chwi.
Acts 4:20Canys ni allwn ni na ddywedom y pethau a welsom ac a glywsom.
Acts 26:16Eithr cyfod, a saf ar dy draed: canys i hyn yr ymddangosais i ti, i’th osod di yn weinidog ac yn dyst o’r pethau a welaist, ac o’r pethau yr ymddangosaf i ti ynddynt;
1 Corinthians 2:1A myfi, pan ddeuthum atoch, frodyr, a ddeuthum nid yn ôl godidowgrwydd ymadrodd neu ddoethineb, gan fynegi i chwi dystiolaeth Duw.
1 John 4:14A ninnau a welsom, ac ydym yn tystiolaethu, ddarfod i’r Tad ddanfon y Mab i fod yn Iachawdwr i’r byd.