Datguddiad Ioan 11:13
Ac yn yr awr honno y bu daeargryn mawr, a degfed ran y ddinas a syrthiodd; a lladdwyd yn y ddaeargryn saith mil o wŷr: a'r lleill a ddychrynasant, ac a roddasant ogoniant i Dduw y nef.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
14Yr ail wae a aeth heibio; wele, y mae'r drydedd wae yn dyfod ar frys.
Read all of Datguddiad Ioan 11
Cross References
Genesis 6:4Cawri oedd ar y ddaear y dyddiau hynny: ac wedi hynny hefyd, pan ddaeth meibion Duw at ferched dynion, a phlanta o’r rhai hynny iddynt: dyma y cedyrn a fu wŷr enwog gynt.
1 Samuel 6:5Am hynny y gwnewch luniau eich ffolennau, a lluniau eich llygod sydd yn difwyno’r tir; a rhoddwch ogoniant i DDUW Israel: ysgatfydd efe a ysgafnha ei law oddi arnoch, ac oddi ar eich duwiau, ac oddi ar eich tir.
Jeremiah 13:16Rhoddwch ogoniant i’r ARGLWYDD eich Duw, cyn iddo ef ddwyn tywyllwch, a chyn i chwi daro eich traed wrth y mynyddoedd tywyll; a thra fyddoch yn disgwyl am oleuni, iddo ef ei droi yn gysgod angau, a’i wneuthur yn dywyllwch.
Acts 1:15Ac yn y dyddiau hynny Pedr a gyfododd i fyny yng nghanol y disgyblion, ac a ddywedodd, (a nifer yr enwau yn yr un man oedd ynghylch ugain a chant,)
Revelation 6:12Ac mi a edrychais pan agorodd efe y chweched sêl; ac wele, bu daeargryn mawr; a’r haul a aeth yn ddu fel sachlen flew, a’r lleuad a aeth fel gwaed;
Revelation 8:9A bu farw traean y creaduriaid y rhai oedd yn y môr, ac a byw ynddynt; a thraean y llongau a ddinistriwyd.