Datguddiad Ioan 11:19
Ac agorwyd teml Dduw yn y nef, a gwelwyd arch ei gyfamod ef yn ei deml ef: a bu mellt, a llefau, a tharanau, a daeargryn, a chenllysg mawr.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Datguddiad Ioan 11
Cross References
Exodus 9:18Wele, mi a wlawiaf ynghylch yr amser yma y fory genllysg trymion iawn; y rhai ni bu eu bath yn yr Aipht, o’r dydd y sylfaenwyd hi, hyd yr awr hon.
Numbers 4:5¶ A deued Aaron a’i feibion, pan gychwyno y gwersyll, a thynnant i lawr y wahanlen orchudd, a gorchuddiant â hi arch y dystiolaeth;
Numbers 10:33¶ A hwy a aethant oddi wrth fynydd yr Arglwydd daith tri diwrnod: ac arch cyfammod yr Arglwydd oedd yn myned o’u blaen hwynt daith tri diwrnod, i chwilio am orphwysfa iddynt.
Job 38:22A aethost ti i drysorau yr eira? neu a welaist ti drysorau y cenllysg,
Psalms 105:32Efe a edrych ar y ddaear, a hi a gryna: efe a gyffwrdd â’r mynyddoedd, a hwy a fygant.
Isaiah 28:2Wele, un grymus a nerthol sydd gan yr ARGLWYDD, fel tymestl cenllysg, neu gorwynt dinistriol, fel llifeiriant dyfroedd mawrion yn llifo drosodd, yr hwn a fwrw i lawr a llaw. º