Datguddiad Ioan 12:3
A gwelwyd rhyfeddod arall yn y nef; ac wele ddraig goch fawr, a saith ben iddi, a deg corn; ac ar ei phennau saith goron.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
2A hi'n feichiog, a lefodd, gan fod mewn gwewyr, a gofid i esgor.
Read all of Datguddiad Ioan 12
Cross References
Isaiah 27:1YDYDD hwnnw yr ymwêl yr AR¬GLWYDD â’i gleddyf caled, mawr, a chadarn, a lefiathan y sarff hirbralf, ie, & lefiathan y sarff dorchog: ac efe a ladd y ddraig sydd yn y m&r. º
Daniel 2:41A lle y gwelaist y traed a’r bysedd, peth ohonynt o bridd crochenydd, a pheth ohonynt o haearn, brenhiniaeth ranedig fydd; a bydd ynddi beth o gryfder haearn, oherwydd gweled ohonot haearn wedi ei gymysgu â phridd cleilyd.
Daniel 7:7Wedi hyn y gwelwn mewn gweledigaethau nos, ac wele bedwerydd bwystfil, ofnadwy, ac erchyll, a chryf ragorol; ac iddo yr oedd dannedd mawrion o haearn: yr oedd yn bwyta, ac yn dryllio, ac yn sathru y gweddill dan ei draed: hefyd yr ydoedd efe yn amryw oddi wrth Y bwystfilod oll y rhai a fuasai o’i flaen ef; ac yr oedd iddo ddeg o gyrn.
Daniel 7:24A’r deg corn o’r frenhiniaeth hon fydd deg brenin, y rhai a gyfodant: ac un arall a gyfyd at eu hôl hwynt, ac efe a amrywia oddi wrth y rhai cyntaf, ac a ddarostwng dri brenin.
Revelation 12:4A'i chynffon hi a dynnodd draean ser y nef, ac a'u bwriodd hwynt i'r ddaear. A'r ddraig a safodd gerbron y wraig yr hon ydoedd yn barod i esgor, i ddifa ei phlentyn hi pan esgorai hi arno.
Revelation 12:17A llidiodd y ddraig wrth y wraig, ac a aeth i wneuthur rhyfel â'r lleill o'i had hi, y rhai sydd yn cadw gorchmynion Duw, ac sydd a thystiolaeth Iesu Grist ganddynt.