Datguddiad Ioan 12:4
A'i chynffon hi a dynnodd draean ser y nef, ac a'u bwriodd hwynt i'r ddaear. A'r ddraig a safodd gerbron y wraig yr hon ydoedd yn barod i esgor, i ddifa ei phlentyn hi pan esgorai hi arno.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Datguddiad Ioan 12
Cross References
Daniel 8:9Ac o un ohonynt y daeth allan gorn bychan, ac a dyfodd yn rhagorol, tua’r deau, a thua’r dwyrain, a thua’r hyfryd wlad.
John 8:44O’ch tad diafol yr ydych chwi, a thrachwantau eich tad a fynnwch chwi eu gwneuthur. Lleiddiad dyn oedd efe o’r dechreuad; ac ni safodd yn y gwirionedd, oblegid nid oes gwirionedd ynddo ef. Pan yw yn dywedyd celwydd, o’r eiddo ei hun y mae yn dywedyd: canys y mae yn gelwyddog, ac yn dad iddo.
Revelation 8:7A’r angel cyntaf a utganodd; a bu cenllysg a than wedi eu cymysgu â gwaed, a hwy a fwriwyd i’r ddaear: a thraean y prennau a losgwyd, a’r holl laswellt a losgwyd.
Revelation 9:19Canys eu gallu hwy sydd yn eu safn, ac yn eu cynffonnau: canys y cynffonnau oedd debyg i seirff, a phennau ganddynt; ac â’r rhai hynny y maent yn drygu.
Revelation 12:9A bwriwyd allan y ddraig fawr, yr hen sarff, yr hon a elwir Diafol a Satan, yr hwn sydd yn twyllo'r holl fyd: efe a fwriwyd allan i'r ddaear, a'i angylion a fwriwyd allan gydag ef.