Datguddiad Ioan 13:1
Ac mi a sefais ar dywod y môr; ac a a welais fwystfil yn codi o'r môr, a chanddo saith ben, a deg corn; ac ar ei gyrn ddeg coron, ac ar ei bennau enw cabledd.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Datguddiad Ioan 13
Cross References
Jeremiah 5:22Onid ofnwch chwi fi? medd yr ARGLWYDD: oni chrynwch rhag fy mron, yr hwn a osodais y tywod yn derfyn i’r môr trwy ddeddf dragwyddol, fel nad elo dros hwnnw; er i’r tonnau ymgyrchu, eto ni thycia iddynt; er iddynt derfysgu, eto ni ddeuant dros hwnnw?
Daniel 7:2Llefarodd Daniel, a dywedodd, Mi a welwn yn fy ngweledigaeth y nos, ac wele bedwar gwynt y nefoedd yn ymryson ar y môr mawr.
Daniel 7:19Yna yr ewyllysiais wybod y gwirionedd am y pedwerydd bwystfil, yr hwn oedd yn amrywio oddi wrthynt oll, yn yn ofnadwy iawn, a’i ddannedd o haearn, a’i ewinedd o bres; yn bwyta, ac yn dryllio, ac yn sathru y gweddill â’i draed:
Daniel 11:36A’r brenin a wna wrth ei ewyllys ei hun, ac a ymddyrcha, ac a ymfawryga uwchlaw pob duw; ac yn erbyn Duw y duwiau y traetha efe bethau rhyfedd, ac a lwydda nes diweddu y dicter; canys yr hyn a ordeiniwyd, a fydd.
Revelation 11:7A phan ddarfyddo iddynt orffen eu tystiolaeth, y bwystfil, yr hwn sydd yn dyfod allan o'r pwll diwaelod, a ryfela â hwynt, ac a'u gorchfyga hwynt, ac a'u lladd hwynt.
Revelation 13:5A rhoddwyd iddo ef enau yn llefaru pethau mawrion, a chabledd; a rhoddwyd iddo awdurdod i weithio ddau fis a deugain.