Datguddiad Ioan 19:4
A syrthiodd y pedwar henuriad ar hugain a'r pedwar anifail i lawr, ac a addolasant Dduw, yr hwn oedd yn eistedd ar yr orseddfainc; gan ddywedyd. Amen; Aleliwia.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
3Ac eilwaith y dywedasant, Aleliwia. A'i mwg hi a gododd yn oes oesoedd.
Read all of Datguddiad Ioan 19
Cross References
Nehemiah 5:13A mi a ysgydwais odre fy ngwisg, ac a ddywedais, Felly yr ysgydwo DUW bob gŵr o’i dŷ, ac o’i lafur, yr hwn ni chwblhao y gair hwn, ac felly y byddo efe yn ysgydwedig, ac yn wag. A’r holl gynull¬eidfa a ddywedasant. Amen: ac a folianasant yr ARGLWYDD. A’r bobl a wnaeth yn ôl y gair hwn.
Psalms 41:13Rhynged bodd i ti, ARGLWYDD, fy ngwaredu: brysia, ARGLWYDD, i’m cymorth.
Psalms 89:52Bendigedig fyddo yr ARGLWYDD yn dragywydd. Amen, ac Amen.
Jeremiah 28:6Ie, y proffwyd Jeremeia a ddywedodd, Amen, poed felly y gwnelo yr ARGLWYDU: yr ARGLWYDD a gyflawno dy eiriau di, y rhai a broffwydaist, am ddwyn drachefn lestri tŷ yr ARGLWYDD, a’r holl gaethglud, o Babilon i’r lle hwn. º
Matthew 28:20Gan ddysgu iddynt gadw pob peth a’r a orchmynnais i chwi. Ac wele, yr ydwyf fi gyda chwi bob amser hyd ddiwedd y byd. Amen.
Revelation 4:4Ac ynghylch yr orseddfainc yr oedd pedair gorseddfainc ar hugain: ac ar y gorseddfeinciau y gwelais bedwar henuriad ar hugain yn eistedd, wedi eu gwisgo mewn dillad gwynion; ac yr oedd ganddynt ar eu pennau goronau aur.