Datguddiad Ioan 2:10
Nac ofna ddim o’r pethau yr ydwyt i’w dioddef. Wele, y cythraul a fwrw rai ohonoch chwi i garchar, fel y’ch profer; a chwi a gewch gystudd ddeng niwrnod. Bydd ffyddlon hyd angau, ac mi a roddaf i ti goron y bywyd.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Daniel 1:14Ac efe a wrandawodd arnynt yn y peth hyn, ac a’u profodd.hwynt ddeg o ddyddiau.
Habakkuk 2:3Canys y weledigaeth sydd eto dros amser gosodedig, ond hi a ddywed o'r diwedd, ac ni thwylla: os erys, disgwyl amdani; canys gan ddyfod y daw, nid oeda.
Matthew 10:28Ac nac ofnwch rhag y rhai a laddant y corff, ac ni allant ladd yr enaid; eithr yn hytrach ofnwch yr hwn a ddichon ddistrywio enaid a chorff yn uffern.
Mark 8:35Canys pwy bynnag a fynno gadw ei einioes, a’i cyll hi: ond pwy bynnag a gollo ei einioes er fy mwyn i a’r efengyl, hwnnw a’i ceidw hi.
Luke 12:4Ac yr wyf yn dywedyd wrthych, fy nghyfeillion, Nac ofnwch y rhai sydd yn lladd y corff, ac wedi hynny heb ganddynt ddim mwy i’w wneuthur.