Datguddiad Ioan 2:12
Ac at angel yr eglwys sydd yn Pergamus, ysgrifenna; Y pethau hyn y mae’r hwn sydd ganddo’r cleddyf llym daufiniog, yn eu dywedyd;
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Isaiah 11:4Ond efe a farn y tlodion mewn cyfiawnder, ac a argyhoedda dros rai llariaidd y ddaear mewn uniondeb: ac efe a dery y ddaear a gwialen ei enau, ac ag anadl ei wefusau y lladd efe yr anwir. º
Revelation 1:11Yn dywedyd. Mi yw Alffa ac Omega, y cyntaf a’r diwethaf: a’r hyn yr wyt yn ei weled, ysgrifenna mewn llyfr, a danfon i’r saith eglwys y rhai sydd yn Asia; i Effesus, ac i Smyrna, ac i Pergamus, ac i Thyatira, ac i Sardis, a Philadelffia, a Laodicea.
Revelation 2:1At angel yr eglwys sydd yn Effesus, ysgrifenna; Y pethau hyn y mae’r hwn sydd yn dal y saith seren yn ei law ddeau, yr hwn sydd yn rhodio yng nghanol y saith ganhwyllbren aur, yn eu dywedyd;
Revelation 19:15Ac allan o'i enau ef yr oedd yn dyfod gleddyf llym, i daro'r cenhedloedd ag ef: ac efe a'u bugeilia hwynt â gwialen haearn: ac efe sydd yn sathru cerwyn win digofaint a llid Duw Hollalluog.