Datguddiad Ioan 20:12
Ac mi a welais y meirw, fychain a mawrion, yn sefyll gerbron Duw; a'r llyfrau a agorwyd: a llyfr arall a agorwyd, yr hwn yw llyfr y bywyd: a barnwyd y meirw wrth y pethau oedd wedi eu hysgrifennu yn y llyfrau, yn ôl eu gweithredoedd.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Datguddiad Ioan 20
Cross References
Psalms 69:28Dy DDUW a orchmynnodd dy nerth: cadarnha, O DDUW, yr hyn a wnaethost ynom ni.
Proverbs 24:29Na ddywed, Mi a wnaf iddo ef fel y gwnaeth yntau i minnau; mi a dalaf i’r gŵr yn ôl ei weithred.
Jeremiah 17:10Myfi yr ARGLWYDD sydd yn chwilio’r galon, yn profi’r arennau, i roddi i bob un yn ôl ei ffyrdd, ac yn ôl ffrwyth ei weithredoedd. º
Daniel 7:10Afon danllyd oedd yn rhedeg ac yn dyfod allan oddi ger ei fron ef: mil o filoedd a’i gwasanaethent, a myrdd fyrddiwn a safent ger ei fron: y fam a eisteddodd, ac agorwyd y llyfrau.
Matthew 16:27Canys Mab y dyn a ddaw yng ngogoniant ei Dad gyda’i angylion; ac yna y rhydd efe i bawb yn ôl ei weithred.