Datguddiad Ioan 22:11
Yr hwn sydd anghyfiawn, bydded anghyfiawn eto: a'r hwn sydd frwnt, bydded frwnt eto; a'r hwn sydd gyfiawn, bydded gyfiawn eto; a'r hwn sydd sanctaidd, bydded sanctaidd eto.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
12Ac wele, yr wyf yn dyfod ar frys, a'm gwobr sydd gyda mi, i roddi i bob un fel y byddo ei waith ef.
Read all of Datguddiad Ioan 22
Cross References
Job 17:9Y cyfiawn hefyd a ddeil ei ffordd; a’r glân ei ddwylo a chwanega gryfder.
Proverbs 1:24Yn gymaint ag i mi eich gwahodd, ac i chwithau wrthod; i mi estyn fy llaw, a neb heb ystyried;
Proverbs 14:32Y drygionus a yrrir ymaith yn ei ddrygioni: ond y cyfiawn a obeithia pan fyddo yn marw.
Ezekiel 3:27Ond pan lefarwyf wrthyt, yr agoraf dy safn, a dywedi wrthynt. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW: Yr hwn a wrandawo, gwrandawed; a'r hwn a beidio, peidied: canys ty gwrthryfelgar ydynt.
Matthew 5:6Gwỳn eu byd y rhai sydd arnynt newyn a syched am gyfiawnder: canys hwy a ddiwellir.
Matthew 21:19A phan welodd efe ffigysbren ar y ffordd, efe a ddaeth ato, ac ni chafodd ddim arno, ond dail yn unig: ac efe a ddywedodd wrtho, Na thyfed ffrwyth arnat byth mwyach. Ac yn ebrwydd y crinodd y ffigysbren.