Datguddiad Ioan 22:19
Ac o thyn neb ymaith ddim oddi wrth eiriau llyfr y broffwydoliaeth hon, Duw a dynn ymaith ei ran ef allan o lyfr y bywyd, ac allan o'r ddinas sanctaidd, ac oddi wrth y pethau sydd wedi eu hysgrifennu yn y llyfr hwn.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Datguddiad Ioan 22
Cross References
Deuteronomy 4:2Na chwanegwch at y gair yr ydwyf yn ei orchymyn i chwi, ac na leihêwch ddim o hono ef, gan gadw gorchymynion yr Arglwydd eich Duw, y rhai yr wyf fi yn eu gorchymyn i chwi.
Luke 11:52Gwae chwychwi, y cyfreithwyr I canys chwi a ddygasoch ymaith agoriad y gwybodaeth: nid aethoch i mewn eich hunain, a’r rhai oedd yn myned a waharddasoch chwi.
Revelation 2:7Yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed pa beth y mae’r Ysbryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi; I’r hwn sydd yn gorchfygu, y rhoddaf iddo fwyta o bren y bywyd, yr hwn sydd yng nghanol paradwys Duw.
Revelation 2:17Yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed beth y mae’r Ysbryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi; I’r hwn sydd yn gorchfygu, y rhoddaf iddo fwyta o’r manna cuddiedig, ac a roddaf iddo garreg wen, ac ar y garreg enw newydd wedi ei ysgrifennu, yr hwn nid edwyn neb, ond yr hwn sydd yn ei dderbyn.
Revelation 3:4Eithr y mae gennyt ychydig enwau, ie, yn Sardis, y rhai ni halogasant eu dillad; a hwy a rodiant gyda mi mewn dillad gwynion: oblegid teilwng ydynt.
Revelation 3:21Yr hwn sydd yn gorchfygu, rhoddaf iddo ef eistedd gyda mi ar fy ngorseddfainc, megis y gorchfygais innau, ac yr eisteddais gyda’m Tad ar ei orseddfainc ef.