Datguddiad Ioan 3:4
Eithr y mae gennyt ychydig enwau, ie, yn Sardis, y rhai ni halogasant eu dillad; a hwy a rodiant gyda mi mewn dillad gwynion: oblegid teilwng ydynt.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
1 Kings 19:18A mi a adewais yn Israel saith o filoedd, y gliniau oll ni phlygasant i Baal, a phob genau a’r nis cusanodd ef. º
Isaiah 1:9Oni buasai i ARGLWYDD y lluoedd adael i ni ychydig iawn o weddill, fel Sodom y buiasem, a chyffelyb fuasem i Gomorra.
Isaiah 59:6Eu gweoedd hwy ni byddant yn wisgoedd, ac nid ymddilladant a’u gweithredoedd: eu gweithredoedd ydynt weithredoedd anwiredd, a gwaith trawster sydd yn eu dwylo. º
Isaiah 61:10Gan lawenychu y llawenychaf yn yr ARGLWYDD, fy enaid a orfoledda yn fy NUW: canys gwisgodd fi a gwisgoedd iachawdwriaeth, gwisgodd â mantell cyfiawnder; megis y mae priodfab yn ymwisgo a harddwisg, ac fel yr ymdrwsia priodferch a’i thiysau. º
Zechariah 3:3A Josua ydoedd wedi ei wisgo â dillad budron, ac yn sefyll yng ngw^ydd yr angel.