Datguddiad Ioan 4:5
Ac yr oedd yn dyfod allan o’r orseddfainc fellt, a tharanau, a lleisiau: ac yr i oedd saith o lampau tân yn llosgi gerbron yr orseddfainc, y rhai yw saith Ysbryd Duw.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 19:16A’r trydydd dydd, ar y boreddydd, yr oedd taranau, a mellt, a chwmmwl tew ar y mynydd, a llais yr udgorn ydoedd gryf iawn; fel y dychrynodd yr holl bobl oedd yn y gwersyll.
Exodus 37:23Ac efe a wnaeth ei saith lamp ef, a’i efeiliau, a’i gafnau, o aur pur.
Psalms 18:13Cyfod, ARGLWYDD, achub ei flaen ef, cwympa ef: gwared fy enaid rhag yr annuwiol, yr hwn yw dy gleddyf di;
Ezekiel 1:13Dyma ddull y pethau byw; Eu gwelediad oedd fel marwor tân yn llosgi, ac fel gwelediad ffaglau: yr oedd efe yn ymgerdded rhwng y pethau byw, a disglair oedd y tân, a mellt yn dyfod allan o'r tân.
Zechariah 4:2Ac a ddywedodd wrthyf, Beth a weli di? A mi a ddywedais, Edrychais, ac wele ganhwyllbren i gyd o aur, a'i badell ar ei ben, a'i saith lusern arno, a saith o bibellau i'r saith lusern oedd ar ei ben ef;
Matthew 3:11Myfi yn ddiau ydwyf yn eich bedyddio chwi â dwfr i edifeirwch: eithr yr hwn sydd yn dyfod ar fy ol i, sydd gryfach na myfi, yr hwn nid ydwyf deilwng i ddwyn ei esgidiau: efe a'ch bedyddia chwi â'r Yspryd Glân, ac â thân.