Datguddiad Ioan 6:14
A’r nef a aeth heibio fel llyfr wedi ei blygu ynghyd; a phob mynydd ac ynys a symudwyd allan o’u lleoedd.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Isaiah 34:4Holl lu y nefoedd hefyd a ddatodir, a’r nefoedd a blygir fel llyfr: a’i holl lu a syrth, fel y syrthiai deilen o’r winwydden, ac fel ffigysen yn syrthio oddi ar y pren. º
Jeremiah 3:23Diau fod yn ofer ymddiried am help o’r bryniau, ac o liaws y mynyddoedd: diau fod iachawdwriaeth Israel yn yr ARGLWYDD ein Duw ni.
Jeremiah 51:25Wele A i’th erbyn di, O fynydd dinistriol, yr hwn wyt yn dinistrio yr holl ddaear, medd yr ARGLWYDD; a myfi a estynnaf fy llaw arnat, ac a’th dreiglaf di i lawr o’r creigiau, ac a’th wnaf di yn fynydd llosg. º
Nahum 1:5Y mynyddoedd a grynant rhagddo, a'r bryniau a doddant, a'r ddaear a lysg gan ei olwg, a'r byd hefyd a chwbl ag a drigant ynddo.
Habakkuk 3:10Y mynyddoedd a'th welsant, ac a grynasant; y llifeiriant dwfr a aeth heibio; y dyfnder a wnaeth dwrf; cyfododd hefyd ei ddwylo yn uchel.