Datguddiad Ioan 6:4
Ac fe aeth allan farch arall, un coch: a’r hwn oedd yn eistedd arno, y rhoddwyd iddo gymryd heddwch oddi ar y ddaear, fel y lladdent ei gilydd: a rhoddwyd iddo ef gleddyf mawr.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
3A phan agorodd efe yr ail sêl, mi a glywais yr ail anifail yn dywedyd. Tyred, a gwêl.
Cross References
Exodus 9:16Ac yn ddïau er mwyn hyn y’th gyfodais di, i ddangos i ti fy nerth; ac fel y myneger fy enw trwy yr holl ddaear.
Ezekiel 29:18Ha fab dyn, Nebuchodonosor brenin Babilon a wnaeth i'w lu wasanaethu gwasanaeth mawr yn erbyn Tyrus: pob pen a foelwyd, a phob ysgwydd a ddi-noethwyd; ond nid oedd am Tyrus gyflog iddo, ac i'w lu, am y gwasanaeth a wasanaethodd efe yn ei herbyn hi:
Daniel 2:37Ti, frenin, wyt frenin brenhinoedd: canys Duw y nefoedd a roddodd i ti frenhiniaeth, gallu, a nerth, a gogoniant.
Zechariah 1:8Gwelais noswaith; ac wele w^r yn marchogaeth ar farch coch, ac yr oedd efe yn sefyll rhwng y myrt wydd y rhai oedd yn y pant; ac o'i ôl ef feirch cochion, brithion, a gwynion.
Matthew 10:34Na thybygwch fy nyfod i ddanfon tangnefedd ar y ddaear: ni ddeuthum i ddanfon tangnefedd, ond cleddyf.