Datguddiad Ioan 6:8
Ac mi a edrychais: ac wele farch gwelw-las: ac enw’r hwn oedd yn eistedd arno oedd Marwolaeth; ac yr oedd Uffern yn canlyn gydag ef. A rhoddwyd iddynt awdurdod ar y bedwaredd ran o’r ddaear, i ladd a chleddyf, ac a newyn, ac a marwolaeth, ac a bwystfilod y ddaear.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
7A phan agorodd efe y bedwaredd sêl, mi a glywais lais y pedwerydd anifail yn dywedyd. Tyred, a gwêl.
Cross References
Leviticus 26:22Ac anfonaf fwystfil y maes yn eich erbyn, ac efe a’ch gwna chwi yn ddiblant, ac a ddifetha eich anifeiliaid, ac a’ch lleihâ chwi; a’ch ffyrdd a wneir yn anialwch.
Isaiah 25:8Efe a lwnc angau mewn buddugoliaeth; a’r Arglwydd DDUW a sych ymaith ddagraa oddi ar bob wyneb; ac efe a dynn ymaith warthrudd ei bobl oddi ar yr holl ddaear: canys yr ARGLWYDD a’i llefarodd. º
Jeremiah 16:4O angau nychlyd y byddant feirw: ni alerir amdanynt, ac nis cleddir hwynt: byddant fel tail ar wyneb y ddaear, a darfyddant trwy y cleddyf, a thrwy newyn; a’u celaneddau fydd yn ymborth i adar y nefoedd, ac i anifeiliaid y ddaear. º
Jeremiah 43:11A phan ddelo, efe a dery wlad yr Aifft; y rhai sydd i angau, ag angau; a’r rhai sydd i gaethiwed, a chaethiwed; a’r rhai sydd i’r cleddyf, â’r cleddyf. º
Ezekiel 5:15Yna y bydd y gwaradwydd a'r gwarthrudd yn ddysg ac yn syndod i'r cenhedloedd sydd o'th amgylch, pan wnelwyf ynot farnedigaethau mewn dig, a llidiowgrwydd, a cherydd llidiog.. Myfi yr ARGLWYDD a'i lleferais.
Hosea 13:14O law y bedd yr achubaf hwynt; oddi wrth angau y gwaredaf hwynt; byddaf angau i ti, O angau; byddaf dranc i ti, y bedd: cuddir edifeirwch o’m golwg.