Datguddiad Ioan 7:13
Ac un o’r henuriaid a atebodd, gan ddywedyd wrthyf, Pwy ydyw’r rhai hyn sydd wedi eu gwisgo mewn gynau gwynion? ac o ba le y daethant?
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 16:8Ac ef a ddywedodd, Agar, morwyn Sarai, o ba le y daethost? ac i ba le yr âi di? A hi a ddywedodd, Ffoi yr ydwyf fi rhag wyneb fy meistres Sarai.
John 7:28Am hynny yr Iesu, wrth athrawiaethu yn y deml, a lefodd ac a ddywedodd, Chwi a’m hadwaenoch i, ac a wyddoch o ba le yr ydwyf fi: ac ni ddeuthum i ohonof fy hun, eithr y mae yn gywir yr hwn a’m hanfonodd i, yr hwn nid adwaenoch chwi.
Revelation 4:10Y mae’r pedwar henuriad ar hugain yn syrthio gerbron yr hwn oedd yn eistedd ar yr orseddfainc, ac yn addoli’r hwn sydd yn byw yn oes oesoedd, ac yn bwrw eu coronau gerbron yr orseddfainc, gan ddywedyd,
Revelation 5:11Ac mi a edrychais, ac a glywais lais angylion lawer ynghylch yr orseddfainc, a’r anifeiliaid, a’r henuriaid: a’u rhifedi hwynt oedd fyrddiynau o fyrddiynau, a miloedd o filoedd;