Datguddiad Ioan 7:3
Gan ddywedyd, Na ddrygwch y ddaear, na’r môr, na’r prennau, nes darfod i ni selio gwasanaethwyr ein Duw ni yn eu talcennau.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 9:4A’r Arglwydd a neilldua rhwng anifeiliaid Israel ac anifeiliaid yr Aiphtiaid; fel na byddo marw dim o gwbl a’r sydd eiddo meibion Israel.
Exodus 12:23O herwydd yr Arglwydd a dramwya i daro yr Aiphtiaid: a phan welo efe y gwaed ar gappan y drws, ac ar y ddau ystlysbost, yna yr Arglwydd a â heibio i’r drws, ac ni âd i’r dinystrydd ddyfod i mewn i’ch tai chwi i ddinystrio,
Isaiah 26:20Tyred, fy mhobl, dos i’th ystafelloedd, a chac dy ddrysau arnat: llecha megis ennyd bach, hyd onid elo y llid heibio. º
Isaiah 54:17Ni lwydda un offeryn a lunier i’th erbyn; a thi a wnei yn euog bob tafod a gyfodo i’th erbyn mewn barn. Dyma etifeddiaeth gweision yr AR¬GLWYDD, a’u cyfiawnder hwy sydd oddi wrthyf fi, medd yr ARGLWYDD.
Ezekiel 9:4A'r ARGLWYDD a ddywedodd wrtho, DOS trwy ganol y ddinas, trwy ganol Jerwsalem, a noda nod ar daloennau y dynion sydd yn ucheneidio ac yn gweiddi am y ffieidd-dra oll a wneir yn ei chanol hi.
Daniel 3:26Yna y nesaodd Nebuchodonosor at enau y ffwrn o dân poeth, ac a lefarodd ac a ddywedodd, O Sadrach, Mesach, ac Abednego, gwasanaethwyr y Duw goruchaf, deuwch allan, a deuwch yma. Yna Sadrach, Mesach, ac Abednego a ddaethant allan o ganol y tân.