Datguddiad Ioan 7:9
Wedi hyn mi a edrychais; ac wele dyrfa fawr, yr hon ni allai neb ei rhifo, o bob cenedl, a llwythau, a phobloedd, ac ieithoedd, yn sefyll gerbron yr orseddfainc, a cherbron yr Oen, wedi eu gwisgo mewn gynau gwynion, a phalmwydd yn eu dwylo;
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 13:16Gwnaf hefyd dy had di fel llwch y ddaear; megis os dichon gwr rifo llwch y ddaear, yna y rhifir dy had dithau.
Leviticus 23:40A’r dydd cyntaf cymmerwch i chwi ffrwyth pren prydferth, canghennau palmwydd, a brig pren caeadfrig, a helyg afon; ac ymlawenhêwch ger bron yr Arglwydd eich Duw saith niwrnod.
Psalms 76:4Dywedais wrth y rhai ynfyd, Nac ynfydwch; ac wrth y rhai annuwiol, Na ddyrchefwch eich corn:
Psalms 98:3Tân a â allan o’i flaen ef, ac a lysg ei elynion o amgylch.
Psalms 117:1Da gennyf wrando ar ARGLWYDD ar fy llef, a'm gweddïau.