Datguddiad Ioan 9:2
Ac efe a agorodd y pydew heb waelod; a chododd mwg o’r pydew, fel mwg ffwrn fawr: a thywyllwyd yr haul a’r awyr gan fwg y pydew.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 15:17A bu, pan fachludodd yr haul, a hi yn dywyll, wele ffwrn yn mygu, a lamp danllyd yn tramwyo rhwng y darnau hynny.
Exodus 10:21¶ A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Estyn dy law tu a’r nefoedd, fel y byddo tywyllwch ar dir yr Aipht, tywyllwch a aller ei deimlo.
Isaiah 14:31Uda, borth; gwaedda, ddinas; Palesteina, ti oll a doddwyd: canys mwg sydd yn dyfod o’r gogledd, ac ni bydd unig yn ei amseroedd nodedig ef. º
Joel 2:10O'u blaen y crŷn y ddaear, y nefoedd a gynhyrfir; yr haul a'r lleuad a dywyllir, a'r sêr a ataliant eu llewyrch.
Acts 2:19A mi a roddaf ryfeddodau yn y nef uchod, ac arwyddion yn y ddaear isod; gwaed, a thân, a tharth mwg.
Revelation 9:17Ac fel hyn y gwelais i’r meirch yn y weledigaeth, a’r rhai oedd yn eistedd arnynt, a chanddynt lurigau tanllyd, ac o liw hyacinth a brwmstan: a phennau’r meirch oedd fel pennau llewod; ac yr oedd yn myned allan o’u safnau, dân, a mwg, a brwmstan.