Datguddiad Ioan 9:6
Ac yn y dyddiau hynny y cais dynion farwolaeth, ac nis cânt; ac a chwenychant farw, a marwolaeth a gilia oddi wrthynt.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
2 Samuel 1:9Ac efe a ddywedodd wrthyf fi, Saf, atolwg, arnaf, a lladd fi: canys cyfyngder a ddaeth arnaf, oherwydd bod fy holl einioes ynof fi eto.
Job 7:15Am hynny y dewisai fy enaid ymdagu, a marwolaeth yn fwy na’m hoedl.
Jeremiah 8:3Ac angau a ddewisir o flaen bywyd gan yr holl weddillion a adewir o’r teulu drwg hwn, y rhai a adewir yn y lleoedd oll y gyrrais i hwynt yno, medd ARGLWYDD y lluoedd.
Luke 23:30Yna y dechreuant ddywedyd wrth y mynyddoedd, Syrthiwch arnom; ac wrth y bryniau, Cuddiwch ni.
Revelation 6:16Ac a ddywedasant wrth y mynyddoedd a’r creigiau, Syrthiwch arnom ni, a chuddiwch ni o ŵydd yr hwn sydd yn eistedd ar yr orseddfainc, ac oddi wrth lid yr Oen: