Datguddiad Ioan 9:7
A dull y locustiaid oedd debyg i feirch wedi eu paratoi i ryfel; ac yr oedd ar eu pennau megis coronau yn debyg i aur, a’u hwynebau fel wynebau dynion.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
8A gwallt oedd ganddynt fel gwallt gwragedd, a’u dannedd oedd fel dannedd llewod.
Cross References
Daniel 7:8Yr oeddwn yn ystyried y cyrn; ac wele, cyfododd corn bychan arall yn eu mysg hwy, a thynnwyd o’r gwraidd dri o’r cyrn cyntaf o’i flaen ef: ac wele lygaid fel llygaid dyn yn y corn hwnnw, a genau yn traethu mawrhydri.
Nahum 3:17Dy rai coronog sydd fel y locustiaid, a'th dywysogion fel y ceiliogod rhedyn mawr, y rhai a wersyllant yn y caeau ar y dydd oerfelog, ond pan gyfodo yr haul, hwy a ehedant ymaith, ac ni adwaenir eu man lle y maent.