Llythyr Paul at y Rhufeiniaid 1:32
Y rhai yn gwybod cyfiawnder Duw, fod y rhai sydd yn gwneuthur y cyfryw bethau yn haeddu marwolaeth, ydynt nid yn unig yn gwneuthur y pethau hyn eithr hefyd yn cydymfodloni â’r rhai sydd yn eu gwneuthur hwynt.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
31Yn anneallus, yn dorwyr amod, yn angharedig, yn anghymodlon, yn anhrugaroglon:
Read all of Llythyr Paul at y Rhufeiniaid 1
Cross References
Hosea 7:3Llawenhânt y brenin a’u drygioni, a’r tywysogion a’u celwyddau.
Luke 11:48Yn wir yr ydych yn tystiolaethu, ac yn gydfodlon i weithredoedd eich tadau; canys hwynt-hwy yn wir a’u lladdasani hwy, a chwithau ydych yn adeiladu eu beddau hwynt.
Acts 22:20A phan dywalltwyd gwaed Steffan dy ferthyr di, yr oeddwn i hefyd yn sefyll gerllaw, ac yn cydsynio i’w ladd ef, ac yn cadw dillad y rhai a’i lladdent ef.
Romans 1:21Oblegid a hwy yn adnabod Duw, nis gogoneddasant ef megis Duw, ac na buont ddiolchgar iddo; eithr ofer fuont yn eu rhesymau, a’u calon anneallus hwy a dywyllwyd.
Romans 2:21Tydi, gan hynny, yr hwn wyt yn addysgu arall, oni’th ddysgi dy hun? yr hwn wyt yn pregethu, Na ladrater, a, ladreti di?