Llythyr Paul at y Rhufeiniaid 1:9
Canys tyst i mi yw Duw, yr hwn yr ydwyf yn ei wasanaethu yn fy ysbryd yn efengyl ei Fab ef, fy mod i yn ddibaid yn gwneuthur coffa ohonoch bob amser yn fy ngweddïau,
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
10Gan ddeisyf a gawn ryw fodd, ryw amser bellach, rwydd hynt gydag ewyllys Duw i ddyfod atoch chwi.
Read all of Llythyr Paul at y Rhufeiniaid 1
Cross References
Job 16:19Wele hefyd yn awr fy nhyst yn y nefoedd; a’m tystiolaeth yn yr uchelder.
Luke 18:1A efe a ddywedodd hefyd ddameg wrthynt, fod yn rhaid gweddïo yn wastad, ac heb ddiffygio;
Acts 3:26Duw, gwedi.cyfodi ei Fab Iesu a’i hanfonodd ef i chwi yn gyntaf, gan eich bendithio chwi, trwy droi pob un ohonoch ymaith oddi wrth eich drygioni.
Acts 19:21A phan gyflawnwyd y pethau hyn, arfaethodd Paul yn yr ysbryd, gwedi iddo dramwy trwy Facedonia ac Achaia, fyned i Jerwsalem; gan ddywedyd, Gwedi imi fod yno, rhaid imi weled Rhufain hefyd.
Acts 27:23Canys safodd yn fy ymyl y nos hon angel Duw, yr hwn a’m piau, a’r hwn yr wyf yn ei addoli,
1 Corinthians 14:14Canys os gweddïaf a thafod dieithr, y mae fy ysbryd yn gweddïo, ond y mae fy neall yn ddinrwyth.