Llythyr Paul at y Rhufeiniaid 13:1
Ymddarostynged pob enaid i’r awdurdodau goruchel: canys nid oes awdurdod ond oddi wrth Dduw; a’r awdurdodau y sydd, gan Dduw y maent wedi eu hordeinio.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Llythyr Paul at y Rhufeiniaid 13
Cross References
Deuteronomy 17:12A’r gwr a wnel mewn rhyfyg, heb wrandaw ar yr offeiriad sydd yn sefyll yno i wasanaethu yr Arglwydd dy Dduw, neu ar y barnwr; yna rhodder i farwolaeth y gwr hwnnw: a thyn ymaith y drwg o Israel.
1 Chronicles 28:4Er hynny ARGLWYDD DDUW Israel a’m hetholodd i o holl dy fy nhad, i fod yn frenin ar Israel yn dragywydd: canys Jwda a ddewisodd efe yn llywiawdwr; ac o dŷ Jwda, tŷ fy nhad i; ac o feibion fy nhad, efe a fynnai i mi deyrnasu ar holl Israel: º
Proverbs 8:15Trwof fi y teyrnasa brenhinoedd, ac y barna’r penaethiaid gyfiawnder.
Daniel 2:21Ac efe sydd yn newid amserau, a thymhorau: efe sydd yn symud brenhinoedd, ac yn gosod brenhinoedd: efe sydd yn rhoddi doethineb i’r doethion, a gwybodaeth i’r rhai a fedrant ddeall:
Daniel 5:18O frenin, y DUW goruchaf a roddes i Nebuchbdonosor dy dad di frenhiniaeth, a mawredd, a gogoniant, ac anrhydedd.
John 19:11Yr Iesu a atebodd, Ni byddai i ti ddim awdurdod arnaf fi, oni bai ei fod wedi ei roddi i ti oddi uchod: am hynny yr hwn a’m traddodes i ti, sydd fwy ei bechod.