Llythyr Paul at y Rhufeiniaid 8:23
Ac nid yn unig y creadur, ond ninnau hefyd, y rhai sydd gennym flaenffrwyth yr Ysbryd: yr ydym ninnau ein hunain hefyd yn ocheneidio ynom ein hunain, gan ddisgwyl y mabwysiad, sef prynedigaeth ein corff.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
22Canys ni a wyddom fod pob creadur yn cydocheneidio, ac yn cydofidio hyd y pryd hwn.
Read all of Llythyr Paul at y Rhufeiniaid 8
Cross References
Luke 21:28A phan ddechreuo’r pethau hyn ddyfod, edrychwch i fyny, a chodwch eich pennau: canys y mae eich ymwared. yn nesau.
Romans 7:24Ys truan o ddyn wyf fi! pwy a’m gwared i oddi wrth gorff y farwolaeth hon?
Romans 8:19Canys awyddfryd y creadur sydd yn disgwyl am ddatguddiad meibion Duw.
2 Corinthians 5:2Canys am hynny yr ydym yn ocheneidio, gan ddeisyfu cael ein harwisgo a’n tŷ sydd o’r nef:
Galatians 5:5Canys nyni yn yr Ysbryd trwy ffydd ydym yn disgwyl gobaith cyfiawnder.
Ephesians 1:14Yr hwn yw ernes ein hetifeddiaeth ni, hyd bryniad y pwrcas, i fawl ei ogoniant ef.