Caniad Solomon 3:6
Pwy yw hon sydd yn dyfod i fyny o’r anialwch megis colofnau mwg, wedi ei pherarogli â myrr, ac â thus, ac â phob powdr yr apothecari?
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
7Wele ei wely ef, sef yr eiddo Solomon; y mae trigain o gedyrn o’i amgylch, sef o gedyrn Israel.
Cross References
Exodus 13:21A’r Arglwydd oedd yn myned o’u blaen hwynt y dydd mewn colofn o niwl, i’w harwain ar y ffordd; a’r nos mewn colofn o dân, i oleuo iddynt; fel y gallent fyned ddydd a nos.
Deuteronomy 8:2A chofia yr holl ffordd yr arweiniodd yr Arglwydd dy Dduw di ynddi y deugain mlynedd hyn, trwy yr anialwch, er mwyn dy gystuddio di, gan dy brofi, i wybod yr hyn oedd yn dy galon, a gedwit ti ei orchymynion ef, ai nas cedwit.
Song of Solomon 1:3Oherwydd arogl dy ennaint daionus, ennaint tywalltedig yw dy enw: am hynny y llancesau a’th garant.
Song of Solomon 4:6Hyd oni wawrio’r dydd, a chilio o’r cysgodau, af i fynydd y myrr, ac i fryn y thus.
Song of Solomon 5:5Mi a gyfodais i agori i’m hanwylyd; a’m dwylo a ddiferasant gan fyrr, a’m bysedd gan fyrr yn diferu ar hyd hesbennau y do.
Song of Solomon 8:5Pwy yw hon sydd yn dyfod i fyny o’r anialwch, ac yn pwyso ar ei hanwylyd? Dan yr afallen y’th gyfodais: yno y’th esgorodd dy fam; yno y’th esgorodd yr hon a’th ymddûg.