Caniad Solomon 8:6
Gosod fi megis sêl ar dy galon, fel sêl ar dy fraich: canys cariad sydd gryf fel angau; eiddigedd sydd greulon fel y bedd: ei farwor sydd farwor tanllyd, a fflam angerddol iddynt.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 28:21A’r meini fyddant âg enwau meibion Israel, yn ddeuddeg, yn ol eu henwau hwynt; o naddiad sêl, bob un wrth ei enw y byddant, yn ol y deuddeg llwyth.
Numbers 5:14A dyfod gwŷn eiddigedd arno, ac eiddigeddu o hono wrth ei wraig, a hithau wedi ei halogi; neu ddyfod yspryd eiddigedd arno, ac eiddigeddu o hono wrth ei wraig, a hithau heb ei halogi:
Deuteronomy 32:21Hwy a yrrasant eiddigedd arnaf â’r peth nid oedd Dduw; digiasant fi â’u hoferedd: minnau a yrraf eiddigedd arnynt hwythau â’r rhai nid ydynt bobl; â chenedl ynfyd y digiaf hwynt.
Psalms 42:1I’r Pencerdd, Salm Dafydd. Gwyn ei fyd a ystyria wrth y tlawd: yr ARGLWYDD a’i gwared ef yn amser adfyd.
Psalms 84:2Canys wele, dy elynion, sydd yn terfysgu; a’th gaseion yn cyfodi eu pennau.
Proverbs 6:34Canys cynddaredd yw eiddigedd gŵr; am hynny nid erbyd efe yn nydd dial.