Llythyr Paul at Titus 1:15
Pur yn ddiau yw pob peth i’r rhai pur: eithr i’r rhai halogedig a’r di-ffydd, nid pur dim, eithr halogedig yw hyd yn oed eu meddwl a’u cydwybod hwy.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
14Heb ddal ar chwedlau Iddewaidd, a gorchmynion dynion, yn troi oddi wrth y gwirionedd.
Read all of Llythyr Paul at Titus 1
Cross References
Proverbs 21:4Uchder golwg, a balchder calon, ac âr yr annuwiol, sydd bechod.
Zechariah 7:5Dywed wrth holl bobl y tir, ac wrth yr offeiriaid, gan lefaru. Pan oeddech yn ymprydio ac yn galaru y pumed a'r seithfed mis, y deng mlynedd a thrigain hynny, ai i mi yr ymprydiasoch chwi ympryd, i mi?
Luke 11:39A’r Arglwydd a ddywedodd witho, Yn awr chwychwi y Phariseaid ydych yn glanhau’r tu allan i’r cwpan a’r ddysgl; ond eich tu mewn sydd yn llawn o drais a drygioni.
Romans 14:14Mi a wn, ac y mae yn sicr gennyf trwy’r Arglwydd Iesu, nad oes dim yn aflan ohono’i hun: ond i’r hwn sydd yn tybied fod peth yn aflan, i hwnnw y mae yn aflan.
Romans 14:23Eithr yr hwn sydd yn petruso, os bwyty, efe a gondemniwyd, am nad yw yn bwyta o ffydd: a pheth bynnag nid yw o ffydd, pechod yw.
1 Corinthians 8:7Ond nid yw’r wybodaeth hon gan bawb: canys rhai, a chanddynt gydwybod o’r eilun hyd y pryd hyn, sydd yn bwyta fel peth a aberthwyd i eilunod; a’u cydwybod hwy, a hi yn wan, a halogir.