Llyfr Sechareia 14:4
A'i draed a safant y dydd hwnnw ar fynydd yr Olewydd, yr hwn sydd ar gyfer Jerwsalem, o du y dwyrain; a mynydd yr Olewydd a hyllt ar draws ei hanner tua'r dwyrain a thua'r gorllewin, a bydd dyffryn mawr iawn: a hanner y mynydd a symud tua'r gogledd, a'i hanner tua'r deau.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Llyfr Sechareia 14
Cross References
2 Samuel 15:30A Dafydd a aeth i fyny i fryn yr Olewydd; ac yr oedd yn myned i fyny ac yn wylo, a’i ben wedi ei orchuddio, ac yr oedd efe yn myned yn droednoeth. A’r holl bobl y rhai oedd gydag ef a orchuddiasant bawb ei ben, ac a aethant i fyny, gan fyned ac wylo.
Ezekiel 11:23A gogoniant yr ARGLWYDD a ymddyr-chafodd oddi ar ganol y ddinas, ac a safodd ar y mynydd sydd o'r tu dwyrain i'r ddinas.
Ezekiel 47:1AC efe a'm dug i drachefn i ddrws y 1 - ty; ac wele ddwfr yn dyfod allan oddi tan riniog y ty tua'r dwyrain: oherwydd wyneb y ty oedd tua'r dwyrain; a'r dyfroedd oedd yn disgyn oddi tanodd o ystlys deau y tŷ, o du y deau i'r allot'.
Micah 1:3Canys wele yr ARGLWYDD yn dyfod o'i le; efe hefyd a ddisgyn, ac a sathr ar uchelderau y ddaear.
Nahum 1:5Y mynyddoedd a grynant rhagddo, a'r bryniau a doddant, a'r ddaear a lysg gan ei olwg, a'r byd hefyd a chwbl ag a drigant ynddo.
Zechariah 4:7Pwy wyt ti, y mynydd mawr? gerbron Sorobabel y byddi yn wastadedd, ac efe a ddwg allan y maen pennaf, gan weiddi, Rhad, rhad iddo.