Llyfr Sechareia 6:15
A'r pellenigion a ddeuant, ac a adeiladant yn nheml yr ARGLWYDD, a chewch wybod mai ARGLWYDD y lluoedd a'm hanfonodd atoch. A hyn a fydd, os gan wrando y gwrandewch ar lais yr ARGLWYDD DDUW.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Deuteronomy 30:10Os gwrandewi ar lais yr Arglwydd dy Dduw, i gadw ei orchymynion ef a’i ddeddfau y rhai sydd ysgrifenedig yn llyfr y gyfraith hon; os dychweli at yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon, ac â’th holl enaid.
Isaiah 49:12Wele, y rhai hyn a ddeuant o bell: ac wele, y rhai acw o’r gogledd, ac o’r gorllewin; a’r rhai yma o dir Sinim. º
Isaiah 57:19Myfi sydd yn creu ffrwyth y gwefusau; Heddwch, heddwch, i bell, ac i agos, medd yr ARGLWYDD: a mi a’i hiachaf ef. º
Isaiah 60:10A meibion dieithr a adeiladant dy furiau, a’u brenhinoedd a’th wasanaeth¬ant; canys yn fy nig y’th drewais, ac o’m hewyllys da fy hun y tosturiais wrthyt. º
Zechariah 2:8Canys fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Ar ôl y gogoniant y'm hanfonodd at y cenhedloedd y rhai a'ch ysbeiliasant chwi: canys a gyffyrddo â chwi, sydd yn cyffwrdd â channwyll ei lygad ef.
Zechariah 3:7Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Os rhodi di yn fy ffyrdd, ac os cedwi fy nghadwraeth, tithau hefyd a ferni fy nhy^, ac a gedwi fy nghynteddoedd; rhoddaf i ti hefyd leoedd i rodio ymysg y rhai hyn sydd yn sefyll yma.