Llyfr Sechareia 9:10
Torraf hefyd y cerbyd oddi wrth Effraim, a'r march oddi wrth Jerwsalem, a'r bwa rhyfel a dorrir; ac efe a lefara heddwch i'r cenhedloedd: a'i lywodraeth fydd o fôr hyd fôr, ac o'r afon hyd eithafoedd y ddaear.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
11A thithau, trwy waed dy amod y gollyngais dy garcharorion o'r pydew heb ddwfr ynddo.
Cross References
1 Kings 4:21A Solomon oedd yn llywodraethi ar yr holl deyrnasoedd, o’r afon hyd wlad y Philistiaid, ac hyd derfyn yr Aifft: yr oeddynt hwy yn dwyn anrhegion, ac yn gwasanaethu Solomon holl ddyddiau ei einioes ef.
Psalms 72:3Bydd i mi yn drigfa gadarn, i ddyfod iddi bob amser: gorchmynnaist fy achub; canys ti yw fy nghraig a’m hamddiffynfa.
Psalms 72:8Llanwer fy ngenau â’th foliant, ac â’th ogoniant beunydd.
Psalms 89:26Efe a lefa arnaf, Ti yw fy Nhad, fy NUW, a Chraig fy iachawdwriaeth.
Isaiah 2:4Ac efe a farna rhwng y cenhedloedd, ac a gerydda bobloedd lawer: a hwy a gurant eu cleddyfau yn sychau, a’u gwaywffyn yn bladuriau: ni chyfyd cenedl gleddyf yn erbyn cenedl, ac ni ddysgant ryfel mwyach.
Isaiah 11:10y Ac yn y dydd hwnnw y bydd gwreiddyn Jesse, yr hwn a saif yn arwydd i’r bobloedd: ag ef yr ymgais y cenhedloedd: a’i orffwysfa fydd yn ogoniant. º