Llyfr Sechareia 9:15
ARGLWYDD y lluoedd a'u hamddiffyn hwynt: a hwy a ysant, ac a ddarostyngant gerrig y dafl; yfant, a therfysgant megis mewn gwin, a llenwir hwynt fel meiliau, ac fel conglau yr allor.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 27:2A gwna ei chyrn ar ei phedair congl: o’r un y bydd ei chyrn; a gwisg hi â phres.
Leviticus 4:18A gosoded o’r gwaed ar gyrn yr allor sydd ger bron yr Arglwydd, sef yr hon sydd ym mhabell y cyfarfod; a thywallted yr holl waed arall wrth waelod allor y poeth-offrwm, yr hon sydd wrth ddrws pabell y cyfarfod.
1 Samuel 17:45Yna y dywedodd Dafydd wrth y Philistiaid, Ti ydwyt yn dyfod ataf fi â chleddyf, ac a gwaywffon, ac a tharian; a minnau ydwyf yn dyfod atat ti yn enw ARGLWYDD y lluoedd, Duw byddinoedd Israel, yr hwn a geblaist ti. º
Song of Solomon 1:4Tyn fi, ni a redwn ar dy ôl. Y brenin a’m dug i i’w ystafellau: ni a ymhyfrydwn ac a ymlawenhawn ynot; ni a gofiwn dy gariad yn fwy na gwin: y rhai uniawn sydd yn dy garu.
Song of Solomon 7:9A thaflod dy enau megis y gwin gorau i’m hanwylyd, yn myned i waered yn felys, ac yn peri i wefusau y rhai a fyddo yn cysgu lefaru.
Isaiah 55:1Odeuwch i’r dyfroedd, bob un y mae syched arno, ie, yr hwn nid oes arian ganddo; deawch, prynwch, a bwytewch; ie, deuwch, prynwch win a llaeth, heb arian, ac heb werth. º