Llyfr Seffaneia 1:7
Distawa gerbron yr ARGLWYDD DDUW; canys agos yw dydd yr ARGLWYDD: oherwydd arlwyodd yr ARGLWYDD aberth, gwahoddodd ei wahoddedigion.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
1 Samuel 16:5Ac efe a ddywedodd, Heddychlon: deuthum i aberthu i’r ARGLWYDD: ymt sancteiddiwch, a deuwch gyda mi i’r aberth. Ac efe a sancteiddiodd Jesse a’i feibion, ac a’u galwodd hwynt i’r aberth. º
Job 40:4Wele, gwael ydwyf; pa beth a atebaf i ti? mi a osodaf fy llaw ar fy ngenau.
Psalms 76:8Oblegid y mae ffiol yn llaw yr ARGLWYDD, a’r gwin sydd goch; yn llawn cymysg, ac efe a dywalltodd ohono: eto holl annuwiolion y tir a wasgant, ac a yfant ei waelodion.
Isaiah 2:12Canys dydd ARGLWYDD y lluoedd fydd ar bob balch ac uchel, ac ar bob dyrchafedig; ac efe a ostyngir:
Isaiah 13:6Udwch; canys agos yw diwrnod yr ARGLWYDD; megis anrhaith oddi wrth yr Hollalluog y daw. º
Isaiah 34:5Canys fy nghleddyf a drochir yn y nefoedd: wele, ar Edom y disgyn i fam, ac ar y bobl a ysgymunais. º