Llyfr Seffaneia 3:17
Yr ARGLWYDD dy DDUW yn dy ganol di sydd gadarn: efe a achub, efe a lawenycha o'th blegid gan lawenydd; efe a lonydda yn ei gariad, efe a ymddigrifa ynot dan ganu.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
16Y dydd hwnnw y dywedir wrth Jerwsalem, Nac ofna; wrth Seion, Na laesed dy ddwylo.
18Casglaf y rhai sydd brudd am y gymanfa, y rhai sydd ohonot, i'r rhai yr oedd ei gwaradwydd yn faich.
Cross References
Genesis 1:31A gwelodd Duw yr hyn oll a wnaethai, ac wele da iawn ydoedd: felly yr hwyr a fu, a’r bore a fu, y chweched dydd.
Genesis 17:1Enwaedu ar Abraham ac Ismael. A phan oedd Abram onid un mlwydd cant, yr ymddangosodd yr Arglwydd i Abram, ac a ddywedodd wrtho, Myfi yw Duw Hollalluog; rhodia ger fy mron i, a bydd berffaith.
Numbers 14:8Os yr Arglwydd sydd foddlawn i ni, efe a’n dwg ni i’r tir hwn, ac a’i rhydd i ni, sef y tir sydd yn llifeirio o laeth a mêl.
Deuteronomy 30:9A’r Arglwydd dy Dduw a wna i ti lwyddo yn holl waith dy law, yn ffrwyth dy fru, ac yn ffrwyth dy anifeiliaid, ac yn ffrwyth dy dir, er daioni: canys try yr Arglwydd i lawenychu ynot, i wneuthur daioni i ti, fel y llawenychodd yn dy dadau;
Psalms 149:4Molwch ef, nef y nefoedd; a’r dyfroedd y rhai ydych oddi ar y nefoedd.