Ail Lyfr y Cronicl 14:2
A gwybu Dafydd sicrhau o’r ARGLWYDD ef yn frenin ar Israel: canys yr oedd ei frenhiniaeth ef wedi ei dyrchafu yn uchel, oherwydd ei bobl Israel. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Ail Lyfr y Cronicl 14
Cross References
2 Samuel 7:8Ac yn awr fel hyn y dywedi wrth fy ngwas Dafydd; Fel hyn y dywed AR¬GLWYDD y lluoedd; Myfi a’th gymerais di o’r gorlan, oddi ar ôl y praidd, i fod yn flaenor ar fy mhobl, ar Israel.
1 Kings 10:9Bendigedig fyddo yr ARGLWYDD dy DDUW, yr hwn a’th hoffodd di, i’th roddi ar deyrngadair Israel: oherwydd cariad yr ARGLWYDD tuag at Israel yn dragywydd, y gosododd efe di yn frenin, i wneuthur barn a chyfiawnder. º
2 Chronicles 2:10Ac wele, i’th weision, i’r seiri a naddant y coed, y rhoddaf ugain mil corus o wenith wedi ei guro, ac ugain mil o haidd, ac ugain mil bath o win, ac ugain mil bath o olew.
Esther 4:14Oherwydd os tewi â sôn a wnei di y pryd hwn, esmwythdra ac ymwared a gyfyd i’r Iddewon o le arall, tithau a thŷ dy dad a gyfrgollir: a phwy sydd yn gwybod ai oherwydd y fath amser â hwn y daethost ti i’r frenhiniaeth?
Isaiah 1:25A mi a ddychwelaf fy llaw arnat, ac a lân buraf dy sothach, ac a dynnaf ymaith dy holl alcam.