Ail Lyfr y Cronicl 14
1Ahiram brenin Tyrus a anfonodd genhadau at Dafydd, a choed cedr, a seiri meini, a seiri prennau, i adeiladu iddo ef dŷ. º
2A gwybu Dafydd sicrhau o’r ARGLWYDD ef yn frenin ar Israel: canys yr oedd ei frenhiniaeth ef wedi ei dyrchafu yn uchel, oherwydd ei bobl Israel. º
3A chymerth Dafydd wragedd ych-waneg yn Jerwsalem: a Dafydd a gen-hedlodd feibion ychwaneg, a merched. º
4A dyma enwau y plant oedd iddo ef yn Jerwsalem: Sammua, a Sobab, Nathan, a Solomon, º
5Ac Ibhar, ac Elisua, ac Elpalet, º
6A Noga, a Neffeg, a Jaffa, º
7Ac Elisama, a Beeliada, ac Eliffalet. º
8A phan glybu y Philistiaid fod Dafydd wedi ei eneinio yn frenin ar holl Israel, y Philistiaid oll a aethant i fyny i geisio Dafydd: a chlybu Dafydd, ac a aeth allan yn eu herbyn hwynt. º
9A’r Philistiaid a ddaethant ac a ymwasgarasant yn nyffryn Reffaim. º
10A Dafydd a ymgynghorodd â Duw, gan ddywedyd, A af fi i fyny yn erbyn y Philistiaid? ac a roddi di hwynt yn fy llaw i? A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrtho, Cerdda i fyny, canys mi a’u rhoddaf hwynt yn dy law di. º
11Felly yr aethant i fyny i Baal-perasim, a Dafydd a’u trawodd hwynt yno. A Dafydd a ddywedodd, Duw a dorrodd i mewn ar fy ngelynion trwy fy llaw i, fel rhwygo dyfroedd: am hynny y gal-wasant hwy enw y lle hwnnw Baal-perasim. º
12A phan adawsant hwy eu duwiau, dywedodd Dafydd am eu llosgi hwynt yn tân. º
13A thrachefn eto y Philistiaid’ a ymwasgarasant yn y dyffryn. º
14A Dafydd a ymgynghorodd â ‘Duw drachefn; a Duw a ddywedodd wrtho, Na ddos i fyny ar eu hôl hwynt, tro ymaith oddi wrthynt, a thyred arnynt ar gyfer y morwydd. º
15A phan glywych drwst cerddediad ym mrig y morwydd, yna dos allan i ryfel: canys y mae Duw wedi myned o’th flaen di, i daro llu y Philistiaid. º
16A gwnaeth Dafydd megis y gorchmynasai Duw iddo; a hwy a drawsant lu y Philistiaid o Gibeon hyd Gaser. º
17Ac enw Dafydd a aeth trwy yr holl wiedydd; a’r ARGLWYDD a roddes ei arswyd ef ar yr holl genhedloedd.