Ail Lyfr y Cronicl 5:26
A Duw Israel a anogodd ysbryd Pul brenin Asyria, ac ysbryd Tilgath-pilneser brenin Asyria, ac a’u caethgludodd hwynt, sef y Reubeniaid, a’r Gadiaid, a hanner llwyth Manasse, ac a’u dug hwynt i Hala, a Habor, a Hara, ac i afon Gosan, hyd y dydd hwn.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Ail Lyfr y Cronicl 5
Cross References
2 Kings 15:19A Phul brenin Asyria a ddaeth yn erbyn y wlad; a Menahem a roddodd i Pul fil o dalentau arian, fel y byddai ei law gydag ef, i sicrhau y frenhiniaeth yn ei law ef. º
2 Kings 16:7Yna Ahas a anfonodd genhadau at Tiglathpileser brenin Asyria, gan ddywedyd, Dy was di a’th fab di ydwyf fi: tyred i fyny, a gwared fi o law brenin Syria, ac o law brenin Israel, y rhai sydd yn cyfodi yn fy erbyn i. º
2 Kings 18:11A brenin Asyria a gaethgludodd Israel i Asyria, ac a’u cyfleodd hwynt yn Hala ac yn Habor, wrth afon Gosan, ac yn ninasoedd y Mediaid: º
1 Chronicles 5:6Beera ei fab yntau, yr hwn a gaethgludodd Tilgath-pilneser brenin Asyria: hwn ydoedd dywysog i’r Reubeniaid.
2 Chronicles 30:6Felly y rhedegwyr a aethant â’r llythyrau o law y brenin a’i dywysogion trwy holl Israel a Jwda, ac wrth orchymyn y brenin, gan ddywedyd, O feibion Israel, dychwelwch at ARGLWYDD DDUW Abra¬ham, Isaac, ac Israel, ac efe a ddychwel at y gweddill a ddihangodd ohonoch chwi o law brenhinoedd Asyria.
Ezra 1:5Yna y cododd pennau-cenedl Jwda a Benjamin, a’r offeiriaid a’r Lefiaid, a phob un y cyffrôdd Duw ei ysbryd, i fyned i fyny i adeiladu tŷ yr ARGLWYDD yr hwn oedd yn Jerwsalem.