1 Corinthians 13:2
A phe byddai gennyf broffwydoliaeth, a gwybod ohonof y dirgelion oll, a phob gwybodaeth; a phe bai gennyf yr holl ffydd, fel y gallwn symudo mynyddoedd, ac heb gennyf gariad, nid wyf fi ddim.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Numbers 24:15¶ Ac efe a gymmerth ei ddammeg, ac a ddywedodd, Balaam mab Beor a ddywed, a’r gwr a agorwyd ei lygaid a ddywed;
Matthew 13:11Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt. Am roddi i chwi wybod dirgelion teyrnas nefoedd, ac ni roddwyd iddynt hwy.
Matthew 21:19A phan welodd efe ffigysbren ar y ffordd, efe a ddaeth ato, ac ni chafodd ddim arno, ond dail yn unig: ac efe a ddywedodd wrtho, Na thyfed ffrwyth arnat byth mwyach. Ac yn ebrwydd y crinodd y ffigysbren.
Mark 11:22A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Bydded gennych ffydd yn Nuw:
Romans 11:25Canys nid ewyllysiwn, frodyr, eich bod heb wybod y dirgelwch hwn, (fel na byddoch ddoethion yn eich golwg eich hun,) ddyfod dallineb o ran i Israel, hyd oni ddêl cyflawnder y Cenhedloedd i mewn.
1 Corinthians 4:1Felly cyfrifed dyn nyni, megis gweinidogion i Grist, a goruchwylwyr ar ddirgeledigaethau Duw.