1 Corinthians 15:55
O angau, pa le mae dy golyn? O uffern, pa le mae dy fuddugoliaeth?
Beibl (1620)
In The King James Version
O death, where is thy sting? O grave, where is thy victory?
In Context
56Colyn angau yw pechod, a grym pechod yw’r gyfraith.
Cross References
Job 18:13Efe a ysa gryfder ei groen ef: cyntaf-anedig angau a fwyty ei gryfder ef.
Psalms 49:8Megis y clywsom, felly y gwelsom yn ninas ARGLWYDD y lluoedd, yn ninas ein DUW ni: DUW a’i sicrha hi yn dragywydd. Sela.
Ecclesiastes 2:15Yna y dywedais yn fy nghalon, Fel y digwydd i’r ffôl, y digwydd i minnau; pa beth gan hynny a dâl i mi fod yn ddoeth mwyach? Yna y dywedais yn fy nghalon, fod hyn hefyd yn wagedd.
Ecclesiastes 8:8Nid oes un dyn yn arglwyddiaethu ar yr ysbryd, i atal yr ysbryd; ac nid oes ganddo allu yn nydd marwolaeth: ac nid oes bwrw arfau yn y rhyfel hwnnw; ac nid achub annuwioldeb ei pherchennog.
Hosea 13:14O law y bedd yr achubaf hwynt; oddi wrth angau y gwaredaf hwynt; byddaf angau i ti, O angau; byddaf dranc i ti, y bedd: cuddir edifeirwch o’m golwg.
Acts 2:27Am na adewi fy enaid yn uffern, ac na oddefi i’th Sanct weled llygredigaeth.