1 John 5:20
Ac a wyddom ddyfod Mab Duw, ac efe a roes i ni feddwl, fel yr adnabyddom yr hwn sydd gywir; ac yr ydym yn y Cywir hwnnw, sefyn ei Fab ef Iesu Grist. Hwn yw’r gwir Dduw, a’r bywyd tragwyddol.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
19Ni a wyddom ein bod o Dduw, ac y mae’r holl fyd yn gorwedd mewn drygioni.
21Y plant bychain, ymgedwch oddi wrth eilunod. Amen.
Cross References
Isaiah 9:6Canys bachgen a aned i ni, mab a roddwyd i ni, a bydd y llywodraeth ar ei ysgwydd ef: a gelwir ei enw ef, Rhyfeddol, Cynghorwr, y Duw cadarn, Tad tragwyddoldeb, Tywysog tangnefedd. º
Isaiah 45:14Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Llafur yr Aifft, a marsiandiaeth Ethiopia, a’r Sabeaid hirion, a ddeuant atat ti, ac eiddot ti fyddant; ar dy ôl y deuant; mewn cadwyni y deuant trosodd, ac ymgrymant i ti; atat y gweddïant, gan ddywedyd, Yn ddiau ynot ti y mae Duw, ac nid oes arall, nac oes Duw. º
Isaiah 54:5Canys dy briod yw yr hwn a’th wnaeth; ARGLWYDD-y lluoedd yw ei enw: dy Waredydd hefyd, Sanct Israel, Duw yr holl ddaear y gelwir ef. º
Jeremiah 23:6Yn ei ddyddiau ef yr achubir Jwda, ac Israel a breswylia yn ddiogel: a hyn fydd ei enw ar yr hwn y gelwir ef, YR ARGLWYDD EIN CYFIAWNDER. º
Luke 21:15Canys myfi a roddaf i chwi enau a doethineb, yr hon nis gall eich holl wrthwynebwyr na dywedyd yn ei herbyn na’i gwrthsefyll.,.;
John 1:1Yn y dechreuad yr oedd y Gair, a’r Gair oedd gyda Duw, a Duw oedd y Gair.