Ail Lyfr y Brenhinoedd 18:15
A dywedodd Eleias, Fel mai byw ARGLWYDD y lluoedd, yr hwn yr wyf yn sefyll ger ei fron, heddiw yn ddiau yr ymddangosaf iddo ef.,’ º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
14Ac yn awr ti a ddywedi, DOS, dywed i’th arglwydd, Wele Eleias: ac efe a’m lladd i. º
16Yna Obadeia a aeth i gyfarfod Ahab, ac a fynegodd iddo. Ac Ahab a aeth i gyfarfod Eleias. º
Read all of Ail Lyfr y Brenhinoedd 18
Cross References
Genesis 2:1Felly y gorphenwyd y nefoedd a’r ddaear, a’u holl lu hwynt.
Deuteronomy 4:19Hefyd rhag dyrchafu o honot dy lygaid tu a’r nefoedd, a gweled yr haul, a’r lleuad, a’r sêr, sef holl lu y nefoedd, a’th yrru di i ymgrymmu iddynt, a gwasanaethu o honot hwynt, y rhai a rannodd yr Arglwydd dy Dduw i’r holl bobloedd dan yr holl nefoedd.
1 Kings 18:10Fel mai byw yr ARGLWYDD dyDDUW, nid oes genedl na brenhiniaeth yr hon ni ddanfonodd fy arglwydd iddi i’th geisio di; a phan ddywedent, Nid yw efe yma, efe a dyngai y frenhiniaeth a’r genedl, na chawsent dydi. º
Psalms 148:2Yr ARGLWYDD sydd yn adeiladu Jerwsalem: efe a gasgl wasgaredigion Israel.
Isaiah 51:7Gwrandewch arnaf, y rhai a adwaenoch gyfiawnder, y bobl sydd â’m cyfraith yn eu calon: nac ofnwch waradwydd dynion, ac nac arswydwch rhag eu difenwad. º