Ail Lyfr y Brenhinoedd 18:22
Yna y dywedodd Eleias wrth y bobl, Myfi fy hunan wyf yn fyw o broffwydi yr ARGLWYDD; ond proffwydi Baal ydynt bedwar cant a dengwr a deugain. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Ail Lyfr y Brenhinoedd 18
Cross References
1 Kings 19:10Ac efe a ddywedodd, Dygais fawr sel dros ARGLWYDD DDUW y lluoedd; oherwydd i feibion Israel wrthod dy gyfamod di, a distrywio dy allorau di, a lladd dy broffwydi â’r cleddyf: a mi fy hunan a adawyd; a cheisio y maent ddwyn fy einioes innau. º
1 Kings 20:13Ac wele, rhyw broffwyd a nesaodd at Ahab brenin Israel, ac a ddywedodd, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Oni welaist ti yr holl dyrfa fawr hon? wele, mi a’i rhoddaf yn dy law di heddiw, fel y gwypech mai myfi yw yr ARGLWYDD, º
1 Kings 20:35A rhyw ŵr o feibion y proffwydi a, ddywedodd wrth ei gymydog trwy air yr’ ARGLWYDD, Taro fi, atolwg. A’r gŵr a. wrthododd ei daro ef. º
1 Kings 22:6Yna brenin Israel a gasglodd y proffwydi, ynghylch pedwar cant o wŷr, ac a ddywedodd wrthynt, A af fi yn erbyn RamothGilead i ryfel, neu a beidiaf fi? Dywedasant hwythau, DOS i fyny; canys yr ARGLWYDD a’i dyry hi yn llaw y brenin. º
Romans 11:3O Arglwydd, hwy a laddasant dy broffwydi, ac a gloddiasant dy allorau i lawr; ac myfi a adawyd yn unig, ac y maent yn ceisio fy einioes innau.
2 Peter 2:1Eithr bu gau broffwydi hefyd ymhiith y bobl, megis ag y bydd gau athrawon yn eich plith chwithau, y rhai yn ddirgel a ddygant i mewn heresïau dinistriol, a chan wadu’r Arglwydd yr hwn a’u prynodd hwynt, ydynt yn tynnu arnynt eu hunain ddinistr buan.