Ail Lyfr y Brenhinoedd 8:6
Felly yr offeiriaid a ddygasant arch cyfamod yr ARGLWYDD i’w lle ei hun, i gafell y tŷ, i’r cysegr sancteiddiaf, dan adenydd y ceriwbiaid. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Ail Lyfr y Brenhinoedd 8
Cross References
Exodus 26:33¶ A dod y wahanlen wrth y bachau, fel y gellych ddwyn yno, o fewn y wahanlen, arch y dystiolaeth: a’r wahanlen a wna wahan i chwi rhwng y cyssegr a’r cyssegr sancteiddiolaf.
Exodus 40:20¶ Cymmerodd hefyd a rhoddodd y dystiolaeth yn yr arch, a gosododd y trosolion wrth yr arch, ac a roddodd y drugareddfa i fynu ar yr arch.
2 Samuel 6:2A Dafydd a gyfododd, ac a aeth, a’r holl bobl oedd gydag ef, o Baale Jwda, i ddwyn i fyny oddi yno arch Duw; enw yr hon a elwir ar enw ARGLWYDD y lluoedd, yr hwn sydd yn aros arni rhwng y ceriwbiaid.
1 Kings 6:19A’r gafell a ddarparodd efe yn y tŷ o fewn, i osod yno arch cyfamod yr ARGLWYDD.
1 Kings 8:4A hwy a ddygasant i fyny arch yr ARGLWYDD, a phabell y cyfarfod, a holl lestri’r cysegr y rhai oedd yn y babell, a’r offeiriaid a’r Lefiaid a’u dygasant hwy i fyny. º
2 Chronicles 5:7A’r offeiriaid a ddygasant arch cyf¬amod yr ARGLWYDD i’w lle, i gafell y tŷ, i’r cysegr sancteiddiolaf, hyd dan adenydd y ceriwbiaid.