The Bible Software
Ail Lyfr y Brenhinoedd · Beibl (1620)

Ail Lyfr y Brenhinoedd 8

1Yna Solomon a gasglodd henuriaid Israel, a holl bennau y llwythau, a thywysogion tadau meibion Isreal, at at y brenin Solomon, yn Jerwsalem, i ddwyn i fyny arch cyfamod yr ARGLWYDD o ddinas Dafydd, honno yw Seion. º

2A holl wŷr Israel a ymgynullasant at y brenin Solomon, ar yr wyl, ym mis Ethanim, hwnnw yw y seithfed mis. º

3A holl henuriaid Israel a ddaethant, a’r offeiriaid a godasant yr arch i fyny. º

4A hwy a ddygasant i fyny arch yr ARGLWYDD, a phabell y cyfarfod, a holl lestri’r cysegr y rhai oedd yn y babell, a’r offeiriaid a’r Lefiaid a’u dygasant hwy i fyny. º

5A’r brenin Solomon, a holl gynull-eidfa Israel, y rhai a ymgynullasai ato ef, oedd gydag ef o flaen yr arch, yn aberthu defaid, a gwartheg, y rhai ni rifid ac ni chyfrifid, gan luosowgrwydd. º

6Felly yr offeiriaid a ddygasant arch cyfamod yr ARGLWYDD i’w lle ei hun, i gafell y tŷ, i’r cysegr sancteiddiaf, dan adenydd y ceriwbiaid. º

7Canys y ceriwbiaid oedd yn lledu eu hadenydd dros Ie yr arch; a’r ceriwbiaid a orchuddient yr arch, a’i barrau oddi arnodd. º

8A’r barrau a estynasant, fel y gwelid pennau y barrau o’r cysegr o flaen y gafell, ond nis gwelid oddi allan: yno y maent hwy hyd y dydd hwn. º

9Nid oedd dim yn yr arch ond y ddwy lech faen a osodasai Moses yno yn Horeb, lle y cyfamododd yr ARGLWYDD a meibion Israel, pan oeddynt yn dyfod o wlad yr Aifft. º

10A phan ddaeth yr offeiriaid allan o’r cysegr, y cwmwl a lanwodd dŷ yr ARGLWYDD, º

11Fel na allai yr offeiriaid sefyll i wasanaethu, oherwydd y cwmwl: canys gogoniant yr ARGLWYDD a lanwasai d yr ARGLWYDD. º

12Yna y dywedodd Solomon, Yr ARGLWYDD a ddywedodd, y preswyliai efe yn y tywyllwch. º

13Gan adeiladu yr adeiledais d yn breswylfod i ti, trigle i ti i aros yn dragy-wydd ynddo. º

14A’r brenin a drodd ei wyneb, ac a fendithiodd holl gynulleidfa Israel. A holl gynulleidfa Israel oedd yn sefyll. º

15Ac efe a ddywedodd, Bendigedig fyddo ARGLWYDD DDUW Israel, yr hwn a lefarodd a’i enau wrth Dafydd fy nhad, ac a’i cwblhaodd a’i law, gan ddywedyd, º

16Er y dydd y dygais fy mhobl Israel allan o’r Aifft, ni ddewisais ddinas o holl lwythau Israel i adeiladu tŷ, fel y byddai fy enw i yno: eithr dewisais Dafydd i fod ar fy mhobl Israel. º

17Ac yr oedd ym mryd Dafydd fy nhad adeiladu tŷ i enw ARGLWYDD DDUW Israel. º

18A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Dafydd fy nhad, Oherwydd bod yn dy fryd di adeiladu t i’m henw i, da y gwnaethost fod hynny yn dy galon: º

19Eto nid adeiledi di y tŷ; ond dy fab di, yr hwn a ddaw allan o’th lwynau di, efe a adeilada y tŷ i’m henw i. º

20A’r ARGLWYDD a gywirodd ei air a lefarodd efe; a mi a gyfodais yn lle Dafydd fy nhad, ac a eisteddais ar deymgadair Israel, megis y llefarodd yr AR¬GLWYDD, ac a adeiledais dŷ i enw AR¬GLWYDD DDUW Israel. º 31 A mi a osodais yno Ie i’r arch, yr hon y mae ynddi gyfamod yr ARGLWYDD, yr hwn a gyfamododd efe a’n tadau ni, pan ddug efe hwynt allan o wlad yr Aifft. º

21

22A Solomon a safodd o flaen allor yr ARGLWYDD, yng ngŵydd holl gynull¬eidfa Israel, ac a estynnodd ei ddwylo tua’r nefoedd: º

23Ac efe a ddywedodd, O ARGLWYDD DDUW Israel, nid oes Duw fel tydi, yn y nefoedd oddi uchod, nac ar y ddaear oddi isod, yn cadw cyfamod a xxx thrugaredd a’th weision sydd yn rhodio ger dy fron di a’u holl galon; º

24Yr hwn a gedwaist a’th was Dafydd fy nhad yr hyn a leferaist wrtho: traethaist hefyd a’th enau, a chwblheaist a’th law, megis heddiw y mae. º

25Ac yn awr, O ARGLWYDD DDUW Israel, cadw a’th was Dafydd fy nhad yr hyn a leferaist wrtho, gan ddywedyd, Ni thorrir ymaith oddi wrthyt na byddo gŵr ger fy mron i yn eistedd ar deyrn-gadair Israel; os dy feibion a gadwant eu ffordd, i rodio ger fy mron i, megis y rhodiaist ti ger fy mron. º

26Ac yn awr, O DDUW Israel, poed gwir, atolwg, fyddo dy air a leferaist wrth dy was Dafydd fy nhad. º

27Ai gwir yw, y preswylia Duw ar y ddaear,? wele, y nefoedd, a nefoedd y nefoedd, ni allant dy gynnwys di; pa faint Itai y dichon y tŷ hwn a adeiledais i! º

28Eto edrych ar weddi dy was, ac ar e.i ddeisyfiad ef, O ARGLWYDD fy Nuw, i wrando ar y llef a’r weddi y mae dy was yn ei gweddïo heddiw ger dy fron di: º

29Fel y byddo dy lygaid yn agored tua’r tŷ yma nos a dydd, tua’r lle y dywedaist amdano, Fy enw a fydd yno: i wrando ar y weddi a weddïo dy was yn y lle hwn. º

30Gwrando gan hynny ddeisyfiad dy’ was, a’th bobl Israel, pan weddïant yn y lle hwn: clyw hefyd o Ie dy breswylfa, sefo’r nefoedd; a phan glywych, maddau. º

31Os pecha gŵr yn erbyn ei gymydog, a gofyn ganddo raith, gan ei dyngu ef, a dyfod y llw o flaen dy allor di yn y tŷ hwn: º

32Yna clyw di yn y nefoedd, gwna hefyd, a barna dy weision, gan ddamnio’r drygionus i ddwyn ei ffordd ef ar ei ben; a chan gyfiawnhau y cyfiawn, trwy roddi iddo ef yn ôl ei gyfiawnder. º

33Pan drawer dy bobl Israel o flaen y gelyn, am iddynt bechu yn dy erbyn di, os dychwelant atat ti, a chyfaddef dy enw, a gweddïo, ac ymbil a thi yn y tŷ hwn: º

34Yna gwrando di yn y nefoedd, a maddau bechod dy bobl Israel, a dychwel hwynt i’r tir a roddaist i’w tadau hwynt. º

35P gaeer y nefoedd, fel na byddo glaw, oherwydd pechu ohonynt i’th erbyn; os gweddïant yn y lle hwn, a cfayfaddef dy enw, a dychwelyd oddi wrth eu pechod, pan gystuddiech di hwynt: º

36Yna gwrando di yn y nefoedd, a maddau bechod dy weision, a’th bobl Israel, fel y dysgych iddynt y ffordd orau y rhodiant ynddi, a dyro law ar dy dir a roddaist i’th bobl yn etifeddiaeth. º

37Os bydd newyn yn y tir, os bydd haint, llosgfa, malltod, locustiaid, os bydd y lindys; pan warchaeo ei dyn¬amo ef yng ngwlad ei ddinasoedd; pa’ bla bynnag, pa glefyd bynnag, a fyddo; º

38Pob gweddi, pob deisyfiad, a fyddo gan un dyn, neu gan dy holl bobl Israel, y rhai a wyddant bawb bla ei galon ei hun, ac a estynnant eu dwylo tua’r tŷ hwn; º

39Yna gwrando di yn y nefoedd, mangre dy breswylfod, a maddau, gwna hefyd, a dyro i bob un yn ôl ei holl flyrdd, yr hwn yr adwaenost ei galon; (canys ti yn unig a adwaenost galonnau holl feibion dynion;) º

40Fel y’th ofhont di yr holl ddyddiau y byddont byw ar wyneb y tir a roddaist i?n tadau ni. º

41Ac am y dieithrddyn hefyd ni hyddo o’th bobl Israel, ond dyfod o wlad bell er mwyn dy enw, º

42(Canys clywant am dy enw mawr di, a’th law gref, a’th fraich estynedig;) pan ddel a gweddi’o tua’r tŷ hwn: º

43Gwrando di yn y nefoedd, mangre dy breswylfod, a gwna yn ôl yr hyn oll a’r a lefo’r dieithrddyn arnat amdano: fel yr adwaeno holl bobl y ddaear dy enw di, i’th ofni di, fel y mae dy bobl Israel, ac y gwypont mai ar dy enw di y gelwir y tŷ hwn a adeiledais i. º

44y Os a dy bobl di allan i ryfel yB erbyn eu gelyn, ar hyd y ffordd yr anfonych hwynt, os gweddi’ant ar yr As-GLWYDD tua ffordd y ddinas a ddewisaist ti, a’r t yr hwn a adeiledais i’th enw di; º

45Yna gwrando yn y nefoedd ar eu gweddi hwynt, ac ar eu deisyfiad, a gwna farniddynt. º

46Os pechant i’th erbyn, (canys nid oes dyn ni phecha,) a digio ohonot wrthynt, a’u rhoddi hwynt o flaen eu gelynion, fel y caethgludont hwynt yn gaethion i wlad y gelyn, ymhell neu yn agos, º

47Os dychwelant at eu calon yn y wlad y caethgludwyd hwynt iddi, a dychwelyd, ac crfyn arnat yng ngwlad y rhai a’u caethgludasant, gan ddywedyd, Pechasom, troseddasom hefyd, a gwnaethom yn annuwiol; º

48A dychwelyd atat ti a’u holl galon, ac a’u holl enaid, y’ngwlad eu gelyn¬ion a’u caethgludasant hwynt, a gweddi’o arnat ti tua’u gwlad a roddaist i’w tadau, a’r ddinas a ddewisaist, a’r tŷ a adeiledais i’th enw di: º

49Yna gwrando di yn y nefoedd, man¬gre dy breswylfod, eu gweddi hwynt, a’u deisyfiad, a gwna farn iddynt, º

50A maddau i’th bobl a bechasant i’th erbyn, a’u holl gamweddau yn y rhai y troseddasant i’th erbyn, a phar iddynt gael trugaredd gerbron y rhai a’u caeth¬gludasant, fel y trugarhaont wrthynt hwy: º

51Canys dy bobl di a’th etifeddiaeth ydynt hwy, y rhai a ddygaist ti allan o’r Aifft, o ganol y ffwrn haearn: º

52Fel y byddo dy lygaid yn agored i ddeisyfiad dy was, a deisyfiad dy bobl Israel, i wrando arnynt hwy pa bryd bynnag y galwont arnat ti. º

53Canys ti a’u neilltuaist hwynt yn etifeddiaeth i ti o holl bobl y ddaear, fel y lleferaist trwy law Moses dy was, pan ddygaist ein tadau ni allan o’r Aifft, O ARGLWYDD DDUW. º

54Ac wedi gorffen o Solomon weddïo ar yr ARGLWYDD yr holl weddi a’r deisyf¬iad yma, efe a gyfododd oddi gerbron allor yr ARGLWTOD, o ostwng ar ei liniau, ac o estyn ei ddwylo tua’r nefoedd. º

55Ac efe a safodd, ac a fendithiodd hoH gynulleidfa Israel a llef uchel, gan ddy¬wedyd, - º

56Bendigedig fyddo yr ARGLWYDD, yr hwn a roddes lonyddwch i’w bobl Israel, yn ôl yr hyn oll a lefarodd efe: ni syrthiodd un gair o’i holl addewidion da ef, y rhai a addawodd efe trwy law Moses ei was. º

57Yr ARGLWYDD ein Dew fyddo gyda ni, fel y bu gyda’n tadau: na wrthoded ni, ac na’n gadawed ni: º

58I ostwng ein calonnau ni iddo ef, i rodio yn ei holl ffyrdd ef, ac i gadw ei orchmynion ef, a’i ddeddfau, a’i farnedig-’’n’o’o 30 siNVianisa siaa aethau, y rhai a orchmynnodd efe i’n tadau ni. º

59A bydded fy ngeiriau hyn, y rhai a ddeisyfais gerbron yr ARGLWYDD, yn agos at yr ARGLWYDD ein Duw ddydd a nos, i wneuthur barn a’i was, a barn a’i bobl Israel beunydd, fel y byddo’r achos: º

60Fel y gwypo holl bobl y ddaear mai yr ARGLWYDD sydd DDUW, ac nad oes arall. º

61Bydded gan hynny eich calon yn berffaith gyda’r ARGLWYDD ein Duw ni, l rodio yn ei ddeddfau ef, ac i gadw ei orchmynion ef, fel heddiw. º

62y A’r brenin a holl Israel gydag efa aberthasant aberth gerbron yr ARGLWYDD. º

63A Solomon a aberthodd aberth hedd, yr hwn a offrymodd efe i’r ARGLWYDD, sef dwy fil ar hugain o wartheg, a chwech ugain mil o ddefaid. Felly y brenin a holl feibion Israel a gyseg-rasant dŷ yr ARGLWYDD.,. º

64Y dwthwn hwnnw y sancteiddiodd y brenin ganol y cyntedd oedd o flaen tŷ yr ARGLWYDD: canys yno yr offrymodd efe y poethoffrymau, a’r bwyd-offrymau, a braster yr offrymau hedd: oherwydd yr allor bres, yr hon oedd gerbron yr ARGLWYDD, oedd ry fechan i dderbyn y poethoffrymau, a’r bwyd-offrymau, a braster yr offrymau hedd. º

65A Solomon a gadwodd y pryd hwnnw wyl, a holl Israel gydag ef, cynulleidfa fawr, o ddyfodfa Hamath hyd afon yr Aifft, gerbron yr ARGLWYDD ein Duw, saith o ddyddiau a saith o ddyddiau, sef pedwar diwrnod ar ddeg. º

66A’r wythfed dydd y gollyngodd efe ‘ymaith y bobl: a hwy a fendithiasant y brenin, ac a aethant i’w pebyll yn hyfryd ac a chalon lawen, am yr holl ddaioni a wnaethai yr ARGLWYDD i Dafydd ei was, ac i Israel ei bobl.

← Ail Lyfr y Brenhinoedd 7Read In The App, Free →Ail Lyfr y Brenhinoedd 9 →

Study Ail Lyfr y Brenhinoedd 8

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516171819202122