1 Peter 1:12
I’r rhai y datguddiwyd, nad iddynt hwy eu hunain, ond i ni, yr oeddynt yn gweini yn y pethau a fynegwyd yn awr i chwi, gan y rhai a efengylasant i chwi trwy’r Ysbryd Glân, yr hwn a ddanfonwyd o’r nef, ar yr hyn bethau y mae’r angylion yn chwenychu edrych.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Proverbs 1:23Dychwelwch wrth fy ngherydd: wele, mi a dywalltaf fy ysbryd i chwi, fy ngeiriau a hysbysaf i chwi.
Isaiah 32:15Hyd oni thywallter arnom yr ysbryd o’r uchelder, a bod yr anialwch yn ddoldir, a chyfrif y doldir yn goetir. º
Isaiah 53:1PWY a gredodd i’n hymadrodd.? ac i bwy y datguddiwyd braich yr ARGLWYDD? º
Daniel 2:22Efe sydd yn datguddio y pethau dyfnion a chuddiedig: efe a ŵyr beth sydd yn y tywyllwch, a chydag ef y mae y goleuni yn trigo.
Daniel 2:47Atebodd y brenin a dywedodd wrth Daniel, Mewn gwirionedd y gwn mai eich DUWchwi yw DUW y duwiau, ac Arglwydd y brenhinoedd, a datguddydd dirgeledigaethau, oherwydd medru ohonot ddatguddio y dirgelwch hwn.
Daniel 9:24Deng wythnos a thrigain a derfynwyd ar dy bobl, ac ar dy ddinas sanctaidd i ddibennu camwedd, ac i selio pechodau, ac i wneuthur cymod dros anwiredd, ac i ddwyn cyfiawnder tragwyddol, ac i selio y weledigaeth a’r broffwydoliaeth, ac i eneinio y sancteiddiolaf.