Llyfr Daniel 9:24
Deng wythnos a thrigain a derfynwyd ar dy bobl, ac ar dy ddinas sanctaidd i ddibennu camwedd, ac i selio pechodau, ac i wneuthur cymod dros anwiredd, ac i ddwyn cyfiawnder tragwyddol, ac i selio y weledigaeth a’r broffwydoliaeth, ac i eneinio y sancteiddiolaf.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Leviticus 8:15Ac efe a’i lladdodd: a Moses a gymmerth y gwaed, ac a’i rhoddes ar gyrn yr allor o amgylch â’i fys, ac a burodd yr allor; ac a dywalltodd y gwaed wrth waelod yr allor, ac a’i cyssegrodd hi, i wneuthur cymmod arni.
Numbers 14:34Yn ol rhifedi y dyddiau y chwiliasoch y tir, sef deugain niwrnod, (pob diwrnod am flwyddyn,) y dygwch eich hanwireddau, sef deugain mlynedd; a chewch wybod toriad fy ngair i.
Psalms 2:6Minnau a osodais fy Mrenhin ar Sïon fy mynydd sanctaidd.
Isaiah 42:4Ni phalla efe, ac n-i ddigalonna, hyd eni osodo farn ar y ddaear; yr ynysoedd hefyd a ddisgwyliant am ei gyfraith ef. º
Isaiah 51:8Canys y pryf a’u bwyty fel dilledyn, a’r gwyfyn a’u hysa fel gwlân: eithr fy nghyfiawnder a fydd yn dragywydd, a’m, hiachawdwriaeth o genhedlaeth i genhedlaeth. º
Isaiah 53:11O lafur ei enaid y gwêl, ac y diwellir: fy ngwas cyfiawn a gyfiawnha lawer trwy ei wybodaeth; canys efe a ddwg eu hanwireddau hwynt. º