1 Peter 1:22
Gwedi puro eich eneidiau, gan ufuddhau i’r gwirionedd trwy’r Ysbryd, i frawdgarwch diragrith, cerwch eich gilydd o galon bur yn helaeth:
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
John 15:3Yr awron yr ydych chwi yn lân trwy’r gair a leferais i wrthych
John 17:17Sancteiddia hwynt yn dy wirionedd: dy air sydd wirionedd.
Acts 6:7A gair Duw a gynyddodd; a rhifedi’r disgyblion yn Jerwsalem a amlhaodd yn ddirfawr, a thyrfa fawr o’r offeiriaid a ufuddhasant i’r ffydd.
Romans 1:5Trwy’r hwn y derbyniasom ras ac apostoliaeth, i ufudd-dod ffydd ymhlith yr holl genhedloedd, er mwyn ei enw ef:
Romans 6:16Oni wyddoch chwi, mai i bwy bynnag yr ydych yn eich rhoddi eich hunain yn weision i ufuddhau iddo, eich bod yn weision i’r hwn yr ydych yn ufuddhau iddo; pa un bynnag ai i bechod i farwolaeth, ynteu i ufudd-dod i gyfiawnder?
Romans 12:9Bydded cariad yn ddiragrith. Casewch y drwg, a glynwch wrth y da.